Lleoliad:
Hybrid – Ystafell Bwyllgora 3 Senedd a fideogynadledda drwy Zoom
Dyddiad: Dydd Mercher, 21 Medi 2022
Amser:
09.31 -
12.31
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/12965
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
Russell George AS (Cadeirydd) Rhun ap Iorwerth AS Gareth Davies AS Sarah Murphy AS Joyce Watson AS |
Tystion: |
Carl Cooper, Ymgeisydd ar gyfer rôl Cadeirydd Bwrdd Iechyd Addysgu Powys Dr Frank Atherton, Prif Swyddog Meddygol, Llywodraeth Cymru Dr Rob Orford, Llywodraeth Cymru Dr Brendan Collins, Llywodraeth Cymru Chris Roberts, Llywodraeth Cymru |
Staff y Pwyllgor: |
Helen Finlayson (Clerc) Claire Morris (Ail Glerc) Dr Paul Worthington (Ymchwilydd) Amy Clifton (Ymchwilydd) Rebekah James (Ymchwilydd) Sarah Hatherley (Ymchwilydd) Steven Williams (Swyddog) |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i'r cyfarfod.
1.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Jack Sargeant AS.
1.3 Croesawodd y Cadeirydd Sarah Murphy a diolchodd i Mike Hedges am ei waith ar y Pwyllgor.
2 Gwrandawiad cyn penodi ar gyfer rôl Cadeirydd Bwrdd Iechyd Addysgu Powys: sesiwn dystiolaeth gyda'r ymgeisydd a ffefrir gan Lywodraeth Cymru
2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Carl Cooper, yr ymgeisydd a ffefrir gan Lywodraeth Cymru ar gyfer rôl Cadeirydd Bwrdd Iechyd Addysgu Powys.
3 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 (ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd ar gyfer eitemau 4, 7, 8, 9 a 10
3.1 Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.
4 Gwrandawiad cyn penodi ar gyfer rôl Cadeirydd Bwrdd Iechyd Addysgu Powys: trafod y dystiolaeth
4.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.
4.2 Nodwyd y bydd y Pwyllgor yn cytuno ar ei adroddiad drwy e-bost, cyn ei gyhoeddi ar 22 Medi 2022.
5 COVID-19: Sesiwn dystiolaeth gyda Llywodraeth Cymru
5.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Syr Frank Atherton, Prif Swyddog Meddygol Cymru; Dr Rob Orford, Prif Gynghorydd Gwyddonol (Iechyd); Brendan Collins, Pennaeth Economeg Iechyd, Llywodraeth Cymru; a Chris Roberts, Cyd-Arweinydd Ymchwil Gymdeithasol (Iechyd), Llywodraeth Cymru.
6 Papurau i’w nodi
6.1 Llythyr gan y Pwyllgor Deisebau at y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol ynghylch deiseb P-06-1161
6.1 Nododd y Pwyllgor y llythyr.
6.2 Llythyr gan y Pwyllgor Cyllid at Gadeiryddion Pwyllgorau ynghylch Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2023-24
6.2 Nododd y Pwyllgor y llythyr.
6.3 Llythyr gan y Pwyllgor Cyllid ynghylch craffu ar Gyllideb Atodol Gyntaf Llywodraeth Cymru 2022-23 - Pwysau ar y GIG
6.3 Nododd y Pwyllgor y llythyr.
6.4 Llythyr at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ynghylch fframweithiau cyffredin dros dro
6.4 Nododd y Pwyllgor y llythyr.
6.5 Ymateb gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ynghylch fframweithiau cyffredin dros dro
6.5 Nododd y Pwyllgor yr ymateb.
6.6 Llythyr at y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant ynghylch y fframwaith cyffredin dros dro ar gyfer Safonau Cyfansoddiadol a Labelu Bwyd
6.6 Nododd y Pwyllgor y llythyr.
6.7 Ymateb gan y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant ynghylch y fframwaith cyffredin dros dro ar gyfer Safonau Cyfansoddiadol a Labelu Bwyd
6.7 Nododd y Pwyllgor yr ymateb.
6.8 Llythyr at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ynghylch y Bil Optometreg
6.8 Nododd y Pwyllgor y llythyr.
6.9 Ymateb gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ynghylch y Bil Optometreg
6.9 Nododd y Pwyllgor yr ymateb.
6.10Llythyr gan y Cadeirydd at randdeiliaid ynghylch Gweithrediaeth y GIG i Gymru
6.10 Nododd y Pwyllgor y llythyr.
6.11Ymateb gan y Cadeirydd at randdeiliaid ynghylch Gweithrediaeth y GIG i Gymru
6.11 Nododd y Pwyllgor yr ymateb.
6.12Llythyr gan yr Awdurdod Safonau Proffesiynol
6.12 Nododd y Pwyllgor y llythyr.
6.13Llythyr gan y Cyngor Meddygol Cyffredinol ynghylch ei adroddiad blynyddol
6.13 Nododd y Pwyllgor y llythyr.
6.14Llythyr at y Farwnes Hallett ynghylch Ymchwiliad COVID-19 y DU
6.14 Nododd y Pwyllgor y llythyr.
6.15Llythyr at Brif Weinidog Cymru ynghylch Ymchwiliad COVID-19 y DU
6.15 Nododd y Pwyllgor y llythyr.
6.16Llythyr gan Brif Weinidog Cymru ynghylch Ymchwiliad COVID-19 y DU
6.16 Nododd y Pwyllgor y llythyr.
6.17Llythyr at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ynghylch argymhellion Pwyllgor y Bumed Senedd yn ymwneud â gwasanaethau endosgopi
6.17 Nododd y Pwyllgor y llythyr.
6.18Llythyr gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ynghylch argymhellion Pwyllgor y Bumed Senedd yn ymwneud â gwasanaethau endosgopi
6.18 Nododd y Pwyllgor y llythyr.
6.19Llythyr at y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant ynghylch argymhellion Pwyllgor y Bumed Senedd yn ymwneud ag iechyd meddwl a llesiant
6.19 Nododd y Pwyllgor y llythyr.
6.20Llythyr gan y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant ynghylch argymhellion Pwyllgor y Bumed Senedd yn ymwneud ag atal hunanladdiad
6.20 Nododd y Pwyllgor y llythyr.
6.21Llythyr at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ynghylch argymhellion Pwyllgor y Bumed Senedd yn ymwneud â Hepatitis C
6.21 Nododd y Pwyllgor y llythyr.
6.22Llythyr gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ynghylch argymhellion Pwyllgor y Bumed Senedd yn ymwneud â Hepatitis C
6.22 Nododd y Pwyllgor y llythyr.
6.23Llythyr at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ynghylch argymhellion Pwyllgor y Bumed Senedd yn ymwneud â darparu gofal iechyd a gofal cymdeithasol ar yr ystâd carchardai i oedolion
6.23 Nododd y Pwyllgor y llythyr.
6.24Llythyr gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ynghylch argymhellion Pwyllgor y Bumed Senedd yn ymwneud â darparu gofal iechyd a gofal cymdeithasol ar yr ystâd carchardai i oedolion
6.24 Nododd y Pwyllgor y llythyr.
6.25Llythyr at Addysg a Gwella Iechyd Cymru a Gofal Cymdeithasol Cymru ynghylch eu cynllun ar y cyd ar gyfer y gweithlu iechyd meddwl
6.25 Nododd y Pwyllgor y llythyr.
6.26Llythyr gan Addysg a Gwella Iechyd Cymru a Gofal Cymdeithasol Cymru ynghylch eu cynllun ar y cyd ar gyfer y gweithlu iechyd meddwl
6.26 Nododd y Pwyllgor y llythyr.
7 COVID-19: Trafod y dystiolaeth
7.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.
8 Blaenraglen waith
8.1 Trafododd y Pwyllgor ei flaenraglen waith.
9 Effaith yr ôl-groniad o ran amseroedd aros ar bobl sy'n aros am ddiagnosis neu driniaeth: trafod y nodyn drafft o’r drafodaeth â rhanddeiliaid ar 29 Mehefin 2022
9.1 Cytunodd y Pwyllgor ar y nodyn drafft.
9.2 Cytunodd y Pwyllgor y dylid cyhoeddi'r nodyn ar y wefan
10 Rhyddhau cleifion o ysbytai ac effaith hynny ar y llif cleifion drwy ysbytai: Trafod ymateb Llywodraeth Cymru
10.1 Trafododd y Pwyllgor yr ymateb gan Lywodraeth Cymru